Cronfa Pensiwn - Beth yw gwerth fy nghronfa pensiwn?

Os ydych yn ansicr faint sydd gennych yn eich cronfa bensiwn gyfan, neu faint o gronfeydd rydych wedi talu i mewn iddynt, mae yna ffyrdd gwahanol i gael gwybod.

Gallwch:

  • edrych ar eich datganiad pensiwn – dylai eich darparwr anfon hwn i chi unwaith y flwyddyn
  • ar-lein - mae llawer o ddarparwyr yn gadael i chi olrhain eich pensiwn ar eu gwefan
  • edrych ar eich pecyn ‘deffro’ - byddwch yn cael hwn gan eich darparwr pensiwn rhwng 4 a 6 mis cyn eich oedran pensiwn cytunedig (’oedran ymddeol a ddewiswyd’) sydd fel arfer rhwng 60 a 65 oed
  • cysylltu â’ch darparwr(darparwyr) pensiwn

Os ydych yn llai na 4 mis i ffwrdd o’ch oedran pensiwn cytunedig a heb dderbyn pecyn deffro eto, dylech gysylltu â’ch darparwr pensiwn.

Edrych pa bensiynau rydych wedi talu i mewn iddynt

Efallai eich bod wedi talu i mewn i fwy nag un gronfa bensiwn. Bydd angen i chi gysylltu â phob darparwr ar wahân i gael gwybod faint sydd ym mhob un.

Os nad ydych yn gallu cofio pa bensiynau rydych wedi talu i mewn iddynt gallwch ddod o hyd i bensiwn coll.

Cyfuno eich cronfeydd pensiwn

Os oes gennych fwy nag un gronfa bensiwn, gallech gyfuno eich cronfeydd i helpu i’w gwneud yn haws i’w rheoli. Gellir codi ffioedd arnoch, felly efallai y byddwch am gael cyngor ariannol cyn gwneud hyn.