Beth yw’r gwahanol fathau o bensiwn?
Ynghyd â’r Pensiwn y Wladwriaeth gan y llywodraeth, mae yna 2 brif fath o bensiwn:
- cyfraniadau wedi’u diffinio - yn seiliedig ar faint o arian sydd wedi cael ei dalu i mewn i’ch cronfa bensiwn
- buddion wedi’u diffinio (cyflog terfynol neu gyfartaledd gyrfa) - yn seiliedig ar eich cyflog a pha mor hir rydych wedi gweithio i’ch cyflogwr
Gallwch edrych pa fath o bensiwn sydd gennych – bydd hyn yn eich helpu i weld os gallwch gael apwyntiad Pension Wise.
Cyfraniadau wedi’u diffinio
Gelwir y rhain weithiau yn bensiynau ‘prynu arian’. Gallant fod yn bensiynau personol a drefnir gennych chi neu bensiynau gweithle a drefnir gan eich cyflogwr.
Mae’r arian a dalwyd i mewn gennych chi neu’ch cyflogwr yn cael ei roi mewn buddsoddiadau gan ddarparwr eich pensiwn. Mae’r swm a gewch pan fyddwch yn dod i gymryd eich cronfa yn dibynnu ar faint a dalwyd i mewn a pha mor dda mae’r buddsoddiadau wedi ei wneud.
Gall gwerth eich cronfa fynd i fyny neu i lawr yn dibynnu ar eich buddsoddiadau.
Gyda phensiynau cyfraniadau wedi’u diffinio chi sy’n penderfynu sut i gymryd eich arian allan.
Mathau o bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio
Mae’r rhain yn cynnwys:
- Cynllun pensiwn gweithredol
- Pensiwn personol grŵp
- Pensiwn ymddiriedolaeth meistr (ee NEST, NOW pension, the People’s Pension)
- SIPP (Pensiwn Hunan Fuddsoddi Personol)
- SSAS (Cynlluniau Hunan Weinyddu Bychan)
- Pensiwn rhanddeiliaid
Dim ond darparu arweiniad ar yr hyn y gallwch ei wneud gyda phensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio y mae Pensiwn Wise. I gael arweiniad ar bensiwn buddion wedi’u diffinio ewch at y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau.
Buddion wedi’u diffinio (cyflog terfynol neu gyfartaledd gyrfa)
Gelwir y rhain weithiau yn bensiynau ‘cyflog terfynol’ neu ‘cyfartaledd gyrfa’. Mae pensiynau buddion wedi’u diffinio bron bob amser yn bensiynau gweithle a drefnir gan eich cyflogwr.
Mae’r swm a gewch yn dibynnu ar eich cyflog, pa mor hir rydych wedi gweithio i’ch cyflogwr a chyfrifiad sydd wedi’i wneud o dan reolau eich cynllun pensiwn.
Mae eich darparwr yn gwarantu swm penodol bob blwyddyn pan fyddwch yn ymddeol.
Pensiwn y Wladwriaeth
Gelwir y pensiwn a gewch gan y llywodraeth yn Bensiwn y Wladwriaeth. Byddwch yn ei gael pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Nid ydych fel arfer yn ei gael yn awtomatig - mae’n rhaid i chi wneud cais am Bensiwn y Wladwriaeth.
Os gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl 6 Ebrill 2016 byddwch yn cael y taliad [Pensiwn newydd y Wladwriaeth] (https://www.gov.uk/pensiwn-y-wladwriaeth-newydd) sy’n £179.60 yr wythnos. Os gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016 y mwyaf y gallwch ei gael o Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth ar hyn o bryd yw £137.60 yr wythnos.