Chwilio o gwmpas a chymharu darparwyr
Nid oes rhaid i chi ddewis opsiwn pensiwn, er enghraifft incwm gwarantedig (blwydd-dal) gan eich darparwr pensiwn cyfredol. Gallwch newid eich darparwr cyn cymryd eich arian allan.
Er enghraifft, os ydych chi am brynu blwydd-dal, gallai symud i ddarparwr arall roi mwy o ddewis ac o bosibl incwm uwch i chi.
Gallwch chwilio o gwmpas eich hun neu gyda chymorth gan ymgynghorydd ariannol.
Wrth chwilio o gwmpas gwyliwch allan am sgiâmau pensiwn.
Eich darparwr presennol
Mwy na thebyg bydd y pecyn ‘deffro’ mae eich darparwr yn ei anfon i chi pan fyddwch yn cyrraedd eich ‘oedran ymddeol a ddewiswyd’ (yr oedran rydych wedi cytuno i ymddeol) ond yn cynnwys gwybodaeth am y cynnyrch maent yn ei gynnig.
Dengys ymchwil y byddai 8 o bob 10 o bobl wedi elwa o newid ddarparwyr (Awdurdod Ymddygiad Ariannol, Adolygiad Thematig o Flwydd-daliadau, Chwefror 2014).
Incwm gwarantedig (blwydd-dal)
Gallwch chwilio o gwmpas am ddyfynbrisiau blwydd-dal gan ddarparwyr pensiwn eraill. Byddant yn dweud wrthych faint y gallech ei gael bob mis neu flwyddyn yn seiliedig ar bethau fel y swm sydd yn eich cronfa, eich oedran a’ch iechyd.
Cyn edrych ar ddarparwyr eraill bydd angen i chi wirio gyda’ch un presennol:
- os oes gan eich cronfa gyfradd blwydd-dal gwarantedig - gallai hyn olygu eich bod yn cael gwell bargen drwy aros
- os byddant yn codi ffi arnoch am symud eich cronfa i ddarparwr arall
Mae yna lawer o wahanol fathau o flwydd-dal. Gallwch eu cymharu ar wefan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol. Byddwch angen gwybod:
- faint sydd gennych yn eich cronfa
- yr oed rydych yn bwriadu ymddeol
- cod post lle byddwch chi’n byw pan fyddwch yn ymddeol
- y math o flwydd-dal rydych ei eisiau, er enghraifft un sydd ond yn talu incwm am gyfnod penodol
Bydd angen i chi ateb cwestiynau am eich iechyd a ffordd o fyw.
Unwaith y byddwch wedi prynu blwydd-dal bydd gennych ond cyfnod byr pryd y gallwch ddal newid eich meddwl (yn y rhan fwyaf o achosion 30 diwrnod). Gallech siarad ag ymgynghorydd ariannol i’ch helpu i gymharu neu drafod blwydd-daliadau rydych wedi dod o hyd iddynt.
Dylech bob amser ofyn i ddarparwyr os yw eich dyfynbris blwydd-dal yn cynnwys ffioedd comisiwn.
Os oes gennych gyflwr iechyd sy’n effeithio ar eich disgwyliad oes gallech gael mwy gan flwydd-dal ‘uwch’.
Incwm addasadwy (tynnu allan hyblyg)
Byddwch angen rhywfaint o wybodaeth am fuddsoddi os ydych eisiau cymharu buddsoddiadau incwm addasadwy neu gallech ofyn i ymgynghorydd ariannol i’ch helpu.
Gallai ymgynghorydd ddweud wrthych faint y gallai eich cronfa dyfu a pha mor hir y byddai’n para os ydych yn cymryd swm penodol allan bob blwyddyn.
Os ydych yn cael incwm addasadwy bydd angen i chi gymryd rhan mewn penderfyniadau ynghylch pa gronfeydd a marchnadoedd i fuddsoddi ynddynt a’u hadolygu’n rheolaidd i sicrhau bod eich arian yn para ac yn cadw i fyny gyda neu’n well na’r gyfradd chwyddiant.
Bydd angen i chi hefyd:
- deall termau a dewisiadau buddsoddi
- gwirio pa ffioedd y byddwch yn eu talu i’ch buddsoddiad gael ei reoli
- gwybod sut y bydd eich cronfa bensiwn yn cael ei drethu bob tro y byddwch yn cymryd arian allan ohono
- bod yn ymwybodol os nad yw eich buddsoddiadau yn perfformio’n dda a’ch bod yn cymryd gormod allan o’ch cronfa, gallech rhedeg allan o incwm ymddeol