Trosglwyddo Pensiwn: A allaf drosglwyddi fy mhensiwn?

Efallai y byddwch yn dymuno trosglwyddo rhywfaint neu’r cyfan o’ch cronfeydd i ddarparwr gwahanol os:

  • nad yw eich darparwr presennol yn cynnig yr opsiwn pensiwn rydych chi eisiau
  • rydych eisiau cyfuno cronfeydd i symleiddio eich pensiynau
  • rydych eisiau talu llai mewn ffioedd
  • rydych eisiau incwm uwch o’ch pensiwn
  • rydych yn symud dramor ac eisiau symud eich pensiwn i gynllun yn y wlad honno

Cyfuno cronfeydd pensiwn

Mae’n debygol eich bod wedi talu i mewn i fwy nag un cronfa bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio os ydych wedi cael mwy nag un swydd.

Gallai cyfuno eich cronfeydd wneud eich pensiynau yn haws i’w rheoli a’ch helpu i arbed arian ar ffioedd. Bydd angen i chi edrych i weld:

  • os bydd ffi yn cael ei godi arnoch i drosglwyddo o un cronfa i un arall
  • os byddwch yn colli nodweddion arbennig(/pension-statements#special-features), er enghraifft cyfradd blwydd-dal gwarantedig

Bydd angen i chi siarad gyda bob darparwr yn unigol i ddarganfod eu rheolau ar gyfuno cronfeydd.

Gwerth trosglwyddo

Dyma’r swm y byddai eich cronfa’n werth os byddech yn symud i ddarparwr gwahanol.

Gallai edrych ar werth trosglwyddo eich cronfa eich helpu i weithio allan os oes gan eich pensiwn ‘ffi ymadael yn gynnar’.

Os yw’r gwerth trosglwyddo yr un fath â gwerth eich cronfa, mae’n annhebygol y byddwch yn gorfod talu ffi pan fyddwch yn trosglwyddo.

Os yw’r gwerth trosglwyddo yn llai na chyfanswm gwerth eich cronfa, efallai y codir ffi ymadael yn gynnar arnoch. Efallai y bydd eich cronfa wedi cael ’gostyngiad gwerth marchnad’ neu ‘addasiad’ wedi’i gymwyso iddo - gofynnwch i’ch darparwr am y gwahaniaeth mewn gwerthoedd.

Sut i drosglwyddo pensiwn

Efallai bydd angen i chi gael cyngor ariannol cyn y gallwch drosglwyddo eich pensiwn.

Cwestiynau i’w gofyn i’ch darparwr presennol:

  1. Ydw i’n gallu trosglwyddo? Gallai fod cyfyngiadau ar pa bensiynau y gallwch drosglwyddo.
  2. Beth yw ‘gwerth trosglwyddo’ fy mhensiwn? Os yw yr un fath a gwerth eich cronfa, mae’n anhebygol y codi’r ffi arnoch pan fyddwch yn trosglwyddo.
  3. Pa ffioedd fydd raid i mi eu talu?
  4. A fyddaf yn colli’r hawl i gymryd arian allan ar oed penodol? Gelwir hyn yn ‘oedran pensiwn wedi’i ddiogelu’.
  5. A fyddaf yn colli unrhyw nodweddion arbennig, er enghraifft cyfradd blwydd-dal gwarantedig?
  6. A fyddaf yn colli’r hawl i gymryd lwmp swm di-dreth o fwy na 25% o’m pensiwn? Gelwir hyn yn ‘swm di-dreth wedi’i ddiogelu’.

Yna mae angen i chi chwilio o gwmpas am ddarparwr newydd i drosglwyddo eich pensiwn iddo.

Cwestiynau i’w gofyn i’ch darparwr newydd:

  1. Ydw i’n gwneud cais i drosglwyddo drwyddo chi neu fy narparwr presennol?
  2. Oes yna unrhyw ffioedd am drosglwyddo i mewn, er enghraifft ffioedd sefydlu?
  3. Oes raid i mi wneud taliadau rheolaidd i’r pensiwn newydd?
  4. Pa gronfeydd buddsoddi a lefelau o risg ydych chi’n eu cynnig? Efallai y byddwch angen help gan ymgynghorydd ariannol gyda hyn.
  5. Pa opsiynau sydd gennyf ar gyfer pan fyddaf eisiau cymryd fy arian allan?

Bydd angen i chi gwblhau ffurflen gais i wneud cais am y trosglwyddiad. Os ydych yn trosglwyddo mwy nag un pensiwn efallai bydd yn rhaid i chi gwblhau mwy nag un cais.

Bydd trosglwyddo eich pensiwn i gynllun pensiwn y DU sydd heb ei gofrestru neu i gynllun tramor ‘heb ei gydnabod’ yn golygu y byddwch yn talu treth ar y trosglwyddiad.

Cael cyngor ariannol

Yn gyfreithiol mae’n rhaid i chi gael cyngor ariannol os ydych am drosglwyddo o

Pensiynau buddion wedi’u diffinio

Os oes gennych bensiwn cyflog terfynnol neu gyfartaledd gyrfa (’buddion wedi’u diffinio’), byddai angen i chi ei drosglwyddo i bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio i allu dewis un o’r opsiynau pensiwn.

Mae gwerth eich pensiwn buddion wedi’u diffinio yn cael ei drosglwyddo fel arian parod ac yn cael ei fuddsoddi mewn cronfa cyfraniadau wedi’u diffinio.

Meddyliwch yn ofalus iawn cyn i chi benderfynu gwneud hyn – byddech yn rhoi’r gorau i incwm sefydlog am un llai sicr ac mae’n bosib y byddech yn waeth eich byd.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall y risgiau, i’ch helpu i wneud penderfyniad gwybodus.

Nid yw pob pensiwn buddion wedi’u diffinio yn caniatáu i chi drosglwyddo allan - gofynnwch i weinyddwr eich cynllun.

Sgiâmau

Os bydd rhywun yn cysylltu â chi yn annisgwyl ac yn dweud y gallant eich helpu i drosglwyddo eich cronfa mae’n debygol o fod yn sgiâm pensiwn.

Cael help a chyngor am ddim

Gallwch gael gwybodaeth am ddim a diduedd am drosglwyddo eich pensiwn gan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol a’r Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau.