Beth fydd cyfanswm fy incwm ar ôl ymddeol?
Pan fyddwch yn cyrraedd amser ymddeol mae’n debygol y bydd eich incwm yn llai a bydd eich costau byw yn newid.
I weithio allan os bydd gennych ddigon o arian i fyw arno ar ôl ymddeol, bydd angen i chi:
- cael gwybod beth y byddwch yn ei gael o’ch cronfa bensiwn, Pensiwn y Wladwriaeth ac unrhyw incwm arall a allai fod gennych
- cyfrifo’r dreth y byddwch yn ei dalu ar eich incwm wedi ymddeol
- edrych ar beth fydd eich costau byw yn debygol o fod
Os byddwch yn penderfynu na fydd gennych ddigon i fyw arno ar ôl i chi ymddeol, gallech roi mwy yn eich cronfa nawr neu ymddeol yn hwyrach ac oedi cymryd eich pensiwn.
O ble fydd eich incwm yn dod
Byddwch yn fwyaf tebygol o gael pensiynau gan eich cyflogwr, pensiynau personol rydych chi wedi’u sefydlu eich hun a’r Pensiwn y Wladwriaeth a delir i chi gan y llywodraeth.
Efallai y byddwch hefyd yn cael incwm arall o:
- gwaith - os ydych yn parhau i weithio am rai blynyddoedd
- budd-daliadau - er enghraifft credyd pensiwn, budd-dal tai, gostyngiad treth cyngor
- incwm o rent
- llog ar gynilion neu fondiau pensiynwyr
- difidendau o fuddsoddiadau
- gwerthu eiddo
Gall cymryd arian o’ch cronfa bensiwn effeithio ar eich budd-daliadau.
Gweithio allan eich incwm ar ôl ymddeol
I gael syniad o faint fydd gennych ar ôl ymddeol, dilynwch y camau hyn:
-
Gwiriwch faint sydd yn eich cronfa bensiwn a pha bensiynau rydych wedi talu i mewn iddynt.
-
Ychwanegwch eich cronfa bensiwn i’ch Pensiwn y Wladwriaeth. Gwiriwch eich Pensiwn y Wladwriaeth ar-lein i gael rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth i gael gwybod faint allech chi ei gael, pryd allech ei gael ac os allech ei wella.
-
Gwiriwch pa incwm arall fydd gennych ar ôl ymddeol a sut y gallai newid.
-
Dewiswch beth i’w wneud gyda’ch cronfa ac edrych o gwmpas i gael dyfynbrisiau gan ddarparwyr.
-
Tynnwch allan y dreth rydych yn ei dalu.
Enghraifft
Rydych yn 65 oed ac eisiau gweithio’n rhan amser hyd nes y byddwch yn 70. Rydych yn penderfynu cymryd 25% o’ch cronfa yn ddi-dreth. Rydych yn buddsoddi’r gweddill i mewn i incwm addasadwy ac yn cymryd allan £4,800 y flwyddyn.
Beth sydd gennych | Swm |
---|---|
Pensiwn y Wladwriaeth Newydd llawn y flwyddyn | £9,339.20 |
Cyfanswm eich cronfa bensiwn | £100,000 |
Incwm y flwyddyn o weithio’n rhan amser | £15,000 |
Beth fyddwch chi’n ei gael yn eich 60au
Incwm | Swm y flwyddyn |
---|---|
Pensiwn y Wladwriaeth Newydd llawn | + £9,339.20 |
Incwm o waith | + £15,000 |
Arian o’ch incwm addasadwy | +£4,800 |
Incwm cyn treth | = £29,139.20 |
Treth rydych yn ei dalu | - £3,313.84 |
Cyfanswm eich incwm wedi ymddeol yn eich 60au | = £25,825.36 |
Mae gennych hefyd yr arian di-dreth o £25,000 i ychwanegu at eich incwm.
Beth a gewch o 70 oed ymlaen
Rydych yn roi’r gorau i weithio ac yn penderfynu cymryd mwy o’ch buddsoddiad incwm addasadwy.
Incwm | Swm y flwyddyn |
---|---|
Pensiwn y Wladwriaeth Newydd llawn | + £9,339.20 |
Arian o’ch incwm addasadwy | + £6,500 |
Incwm cyn treth | = £15,839.20 |
Treth rydych yn ei dalu | - £653.84 |
Cyfanswm eich incwm ymddeol o 70 oed ymlaen | = £15,185.36 |
Mae gennych hefyd yr arian di-dreth o £25,000 a gymeroch yn 65 oed i ychwanegu at eich incwm.
Gweithio allan faint fydd ei angen arnoch ar ôl ymddeol
-
Ychwanegwch yr holl gostau byw sydd gennych ar hyn o bryd. Gallwch ddefnyddio cynllunydd cyllideb y Gwasanaeth Cynghori Ariannol i’ch helpu i weithio allan beth ydynt.
-
Tynnwch i ffwrdd y costau hyn o’ch incwm ar ôl ymddeol. Bydd hyn yn rhoi syniad i chi os fydd gennych ddigon o arian i fyw arno ar ôl ymddeol.
Costau byw mewn ymddeoliad
Dros y blynyddoedd, bydd eich anghenion yn newid.
Er enghraifft, efallai y byddwch yn talu llai am:
- teithio - mae rhywfaint o gludiant cyhoeddus yn rhad ac am ddim ar ôl i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth
- eich morgais - gallai hwn fod wedi cael ei dalu
Efallai y byddwch yn talu mwy am:
- biliau ynni a dŵr - efallai y byddwch yn treulio mwy o amser gartref
- costau gofal
Cynyddu eich incwm ar ôl ymddeol
Os nad ydych yn meddwl y bydd gennych ddigon o arian ar gyfer eich ymddeoliad, gallech dalu mwy i mewn i’ch cronfa nawr, cymryd eich cronfa’n hwyrach ymlaen neu oedi cymryd Pensiwn y Wladwriaeth.
Talu mwy i mewn i’ch cronfa
Mae terfyn ar faint y gallwch ei dalu i mewn i’ch cronfa a pharhau i gael rhyddhad treth. Gallwch dalu i mewn hyd at eich lwfans blynyddol. Mae eich lwfans yn newid unwaith y byddwch yn dechrau cymryd arian o’ch cronfa.
Os oes gennych fwy nag un gronfa, gallwch barhau i dalu i mewn i un cronfa ar ôl i chi ddechrau cymryd arian o un arall. Mae’r swm y gallwch ei dalu i mewn yn gostwng i uchafswm o £4,000 y flwyddyn unwaith y byddwch yn dechrau cymryd arian o gronfa.
Mae hyn yn cynnwys eich rhyddhad treth o 20%. Er enghraifft, er mwyn cael cyfraniad o £10,000 byddai ond rhaid i chi dalu £8,000 i mewn.
Efallai y byddwch yn dal i allu talu i mewn i’r gronfa rydych yn cymryd arian ohonno ond ni fyddwch yn cael rhyddhad treth ar y taliadau hyn.
Cymryd eich cronfa yn hwyrach ymlaen
Efallai y byddwch yn gallu gadael eich cronfa heb ei gyffwrdd a’i gymryd yn hwyrach na’r oedran rydych wedi’i gytuno gyda darparwr eich pensiwn (a elwir eich ‘oedran ymddeol a ddewiswyd’).
Gallai adael eich arian wedi’i fuddsoddi am fwy o amser a pharhau i dalu mewn roi incwm uwch i chi pan fyddwch yn dod i’w gymryd allan.
Pensiwn y Wladwriaeth
Gallwch oedi pryd fyddwch yn cael Pensiwn y Wladwriaeth i helpu cynyddu eich incwm ar ôl ymddeol. Gelwir hyn yn gohirio Pensiwn y Wladwriaeth.
Efallai y gallech ychwanegu at eich Pensiwn y Wladwriaeth os ydych:
- yn ddyn a aned cyn 6 Ebrill 1951
- yn ddynes a aned cyn 6 Ebrill 1953
Cael gwybod mwy am ffyrdd o gynyddu eich pensiwn gan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol.