Opsiynau Pensiwn: Beth allaf ei wneud gyda fy nghronfa?
Mae 6 ffordd y gallwch gymryd eich cronfa bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio.
Fel arfer, gallwch gymryd allan 25% o’ch cronfa yn ddi-dreth.
Gadael y cyfan o’ch cronfa heb ei gyffwrdd
Nid oes rhaid i chi ddechrau cymryd arian allan o’ch cronfa bensiwn pan fyddwch yn cyrraedd eich ‘oedran ymddeol a ddewiswyd’. Gallwch adael eich arian wedi’i fuddsoddi yn eich cronfa hyd nes y byddwch ei angen.
Incwm gwarantedig (blwydd-dal)
Byddwch yn defnyddio eich cronfa i brynu polisi yswiriant sy’n gwarantu incwm am weddill eich oes - waeth pa mor hir rydych yn byw.
Incwm addasadwy
Mae eich cronfa yn cael ei fuddsoddi i roi incwm rheolaidd i chi. Chi sy’n penderfynu faint i gymryd allan a phryd, a pha mor hir rydych am iddo barhau.
Cymryd arian allan fesul tipyn
Gallwch gymryd symiau llai o arian allan o’ch cronfa hyd nes y byddwch yn rhedeg allan. Nid yw eich swm di-dreth 25% yn cael ei dalu mewn lwmp swm - rydych yn ei gael dros gyfnod o amser.
Cymryd eich cronfa gyfan mewn un tro
Gallwch gyfnewid eich cronfa gyfan - 25% yn ddi-dreth, mae’r gweddill yn drethadwy.
Cymysgu eich opsiynau
Gallwch gymysgu gwahanol opsiynau. Fel arfer, byddech angen cronfa fwy i wneud hyn.