Sut y caiff eich pensiwn ei ddiogelu
Mae sut y caiff eich pensiwn ei ddiogelu yn dibynnu ar eich math o bensiwn.
Pensiynau cyfraniadau wedi’u diffinio
Os bydd eich cyflogwr yn mynd allan o fusnes, ni fyddwch yn colli eich cronfa bensiwn. Mae hyn oherwydd bod pensiynau cyfraniadau wedi’u diffinio fel arfer yn cael eu rhedeg gan ddarparwyr pensiwn, nid cyflogwyr.
Mae rhai pensiynau cyfraniadau wedi’u diffinio yn cael eu rhedeg gan ymddiriedolaeth a ddewisir gan y cyflogwr. Cysylltwch â’ch cyflogwr am union fanylion iawndal.
Os na all eich darparwr dalu
Gallwch gael iawndal am hyd at 100% o werth eich cronfa os na all eich darparwr pensiwn eich talu ac mae wedi cael ei awdurdodi gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA).
Gallwch hawlio iawndal gan Gynllun Iawndal y Gwasanaethau Ariannol.
Pensiynau buddion wedi’u diffinio
Mae’r pensiynau hyn fel arfer yn cael eu diogelu gan y Gronfa Diogelu Pensiynau.
Byddwch fel arfer yn cael:
- 100% o iawndal os ydych wedi cyrraedd eich ‘oedran ymddeol a ddewiswyd’ - (yr oedran roeddech wedi’i gytuno gyda’ch darparwr i ymddeol)
- 90% o iawndal os ydych chi o dan eich oedran ymddeol a ddewiswyd
Blwydd-daliadau
Gallwch wneud cais am hyd at 100% o werth cyfredol eich cronfa os na all eich darparwr blwydd-dal ei dalu ac mae wedi cael ei awdurdodi gan y FCA.
Cysylltwch â’ch darparwr os ydych angen cwyno am bensiwn.