Cwcis

Mae gwefan Pension Wise yn gosod ffeiliau bychain (a adnabyddir fel ‘cwcis’) ar eich cyfrifiadur i gasglu gwybodaeth am sut rydych yn pori’r wefan.

Defnyddir cwcis i:

  • mesur sut rydych yn defnyddio’r wefan fel y gellir ei diweddaru a’i gwella yn seiliedig ar eich anghenion
  • cofio’r hysbysiadau rydych wedi’u gweld fel nad ydym yn eu dangos i chi eto

Nid yw ein cwcis yn cael eu defnyddio i’ch adnabod chi’n bersonol.

Byddwch fel arfer yn gweld neges ar y safle cyn i ni gadw cwci ar eich cyfrifiadur. Darganfyddwch fwy am sut i reoli cwcis.

Sut rydym yn defnyddio cwcis

Mesur defnydd o’r wefan (Google Analytics)

Rydym yn defnyddio meddalwedd Google Analytics i gasglu gwybodaeth am sut rydych yn defnyddio ein gwefan. Rydym yn gwneud hyn er mwyn helpu i sicrhau bod y wefan yn diwallu anghenion ei ddefnyddwyr ac i’n helpu i wneud gwelliannau. Mae Google Analytics yn cadw gwybodaeth am:

  • y tudalennau rydych yn ymweld â hwy ar wefan Pension Wise

  • faint o amser rydych yn ei dreulio ar bob tudalen

  • sut gwnaethoch gyrraedd y wefan

  • beth rydych yn clicio arno tra byddwch yn ymweld â’r wefan

Nid ydym yn casglu nac yn cadw eich gwybodaeth bersonol (er enghraifft eich enw neu gyfeiriad) felly ni all y wybodaeth hon gael ei defnyddio i nodi pwy ydych chi.

Nid ydym yn caniatáu i Google ddefnyddio neu rannu ein data dadansoddiadol.

Mae Google Analytics yn gosod y cwcis canlynol:

Enw Diben Dirwyn i ben
_ga Mae hyn yn ein helpu i gyfrif faint o bobl sy’n ymweld â Pension Wise drwy olrhain os ydych wedi ymweld o’r blaen 2 flynedd
_gat Defnyddir i reoli pa mor gyflym mae cais i edrych ar dudalen yn cael eu gwneud 10 munud

Gallwch eithrio allan o Google Analytics.

Ein harolygon perfformiad

Rydym yn dewis rhai defnyddwyr i gymryd rhan mewn arolygon perfformiad. Os byddwch yn cymryd rhan, neu’n anwybyddu arolwg, byddwn yn arbed cwci sy’n gadael i ni wybod eich bod wedi gweld y neges fel nad ydym yn ei ddangos i chi eto.

Enw Diben Dirwyn i ben
UZ_TI_dc_value Mae’n arbed neges i gofio os ydych wedi cymryd arolwg neu wedi’i anwybyddu pan fyddwch yn cau eich porwr
UZ_TI_S_{id} Adnabod arolwg sydd wedi’i ddangos i chi pan fyddwch yn cau eich porwr

Rydym yn defnyddio UserZoom i gasglu ymatebion i arolwg. Os byddwch yn cymryd rhan, bydd UserZoom yn arbed cwcis ychwanegol i’ch cyfrifiadur i olrhain eich cynnydd drwyddo.

Ein neges gyflwyno

Efallai y byddwch yn gweld neges groeso yn ymddangos pan fyddwch yn ymweld â gwefan Pension Wise am y tro cyntaf. Byddwn yn cadw cwci fel bod eich cyfrifiadur yn gwybod eich bod wedi’i weld ac yn gwybod i beidio â’i ddangos eto.

Enw Diben Dirwyn i ben
seen_cookie_message Mae’n arbed neges i roi gwybod i ni eich bod wedi gweld ein neges cwci 1 mis

Cyfyngiadau diogelwch

Mae Pension Wise yn defnyddio rhwydwaith cyflwyno cynnwys (CDN). Mae ein CDN yn gosod cwci i ddyfeisiau defnyddwyr fel y gallwn adnabod ymwelwyr nad ydynt yn ddynol i’n gwefan, megis botiau ac ymlusgwyr. Bydd ymwelwyr nad ydynt yn ddynol yn cael cyfyngiadau diogelwch eu cymhwyso iddynt.

Enw Diben Dirwyn i ben
_cfduid Diystyru gosodiadau diogelwch os yw eich peiriant yn cael ei ymddiried ynddo 28 diwrnod