Edrych ar grynodeb o’ch apwyntiad
Ar ôl eich apwyntiad, defnyddiwch hwn i:
- edrych ar grynodeb o’r opsiynau pensiwn a drafodwyd yn eich
apwyntiad Pension Wise - argraffu neu lawrlwytho’r crynodeb
Cyn i chi ddechrau
Dylech fod wedi cael apwyntiad dros y ffôn neu wyneb yn wyneb gydag arbenigwr arweiniad Pension Wise.
Efallai na fydd rhywfaint o’r wybodaeth yn y crynodeb yn berthnasol os byddwn yn darganfod yn ystod eich apwyntiad:
- bod gennych gytundeb Adran 32 – efallai na fyddwch yn gallu trosglwyddo eich pensiwn
- rydych eisioes yn cymryd incwm addasiadwy (yn derbyn incwm o gytundeb tynnu allan)
- rydych wedi etifeddu eich cronfa bensiwn – bydd y swm o dreth a dalwch yn wahanol
- bod gennych flwydd-dal cyfnod penodol ac mae swm aeddfedu’n daladwy
Yn yr achosion hyn efallai na fydd pob opsiwn ar gael. Bydd angen i chi gysylltu â’ch darparwr am fwy o wybodaeth.
Os nad ydych wedi cael apwyntiad Pension Wise eto, gallwch drefnu apwyntiad.