A allaf gyfnewid fy mhensiwn cyn 55?

Fel arfer ni allwch gymryd arian o’ch cronfa bensiwn cyn eich bod yn 55 oed, ond mae rhai achosion prin pan y gallwch, er enghraifft os ydych yn ddifrifol wael.

Yn yr achos hwn, efallai y gallwch gymryd eich cronfa yn gynnar, hyd yn oed os oes gennych ‘oedran ymddeol a ddewiswyd’ (oedran rydych wedi’i gytuno i ymddeol gyda darparwr eich pensiwn).

Efallai y bydd gennych hefyd yr hawl o dan gynllun pensiwn rydych wedi ymuno â cyn 6 Ebrill 2006 i gymryd eich pensiwn cyn eich bod yn 55 oed. Gofynnwch i’ch darparwr pensiwn os oes gennych ‘oedran pensiwn wedi’i ddiogelu’.

Os bydd rhywun yn cysylltu â chi yn annisgwyl ac yn dweud y gallant eich helpu i gael mynediad i’ch cronfa cyn 55 oed, mae’n debygol o fod yn sgâm pensiwn. Gallech golli eich arian a wynebu cost treth o hyd at 55% o’r swm a gymerwyd allan neu a drosglwyddwyd yn ogystal â chostau pellach gan eich darparwr.

Os ydych chi’n sâl

Efallai y byddwch yn gallu cymryd eich cronfa cyn eich bod yn 55 oed os na allwch weithio oherwydd eich bod yn rhy sâl.

Siaradwch â’ch darparwr am reolau eich pensiwn - bydd yn dibynnu ar eu diffiniad o ‘salwch’.

Os ydych chi’n ddifrifol wael

Efallai y byddwch yn gallu cymryd eich cronfa gyfan yn ddi-dreth os yw’r ddau o’r canlynol yn berthnasol i chi:

  • mae disgwyl i chi fyw am lai na blwyddyn
  • mae eich cronfeydd yn werth llai na’r lwfans oes o £1,073,100.

Darllenwch fwy am eich pensiwn pan fyddwch yn marw.

Pensiwn y Wladwriaeth

Y cynharaf y gallwch gael eich Pensiwn y Wladwriaeth yw pan fyddwch yn cyrraedd eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Os ydych yn ymddeol cyn yr oedran hwn bydd yn rhaid i chi aros i wneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth.