Pa dreth ydych chi’n ei thalu ar eich pensiwn?
Pan fyddwch yn cymryd arian allan o’ch cronfa bensiwn, mae 25% yn ddi-dreth. Byddwch yn talu Treth Incwm ar y 75% arall.
Nid yw eich swm di-dreth yn defnyddio dim o’ch Lwfans Personol - y swm o incwm nad oes rhaid i chi dalu treth arno. Y Lwfans Personol safonol yw £12,570.
Mae faint o dreth rydych yn ei dalu yn dibynnu ar gyfanswm eich incwm am y flwyddyn a’ch cyfradd treth.
Sut mae pob opsiwn pensiwn yn cael ei drethu
Mae’r tabl hwn yn rhoi trosolwg o faint o dreth efallai y byddwch yn ei dalu ar yr arian rydych yn ei gymryd allan o’ch cronfa bensiwn.
Treth arall y gallech ei dalu
Gallech hefyd dalu Treth Incwm ar:
- eich Pensiwn y Wladwriaeth
- enillion o gyflogaeth neu hunangyflogaeth
- unrhyw incwm arall, er enghraifft arian o incwm rhent, cynilion, buddsoddiadau
- unrhyw fudd-daliadau trethadwy y gallech eu cael, er enghraifft Lwfans Gofalwr
Y swm di-dreth o 25%
Mae yna 2 ffordd y gallwch gymryd eich swm di-dreth.
Ei gymryd i gyd mewn un tro
Gallwch gymryd 25% fel lwmp swm heb dalu treth. Os byddwch yn gwneud hyn, ni allwch adael y 75% sy’n weddill heb ei gyffwrdd. Rhaid i chi naill ai:
- prynu incwm gwarantedig (blwydd-dal)
- cael incwm addasadwy (tynnu allan hyblyg)
- cymryd y gronfa gyfan fel arian parod
Enghraifft Mae eich cronfa yn £60,000 ac rydych yn cymryd allan £15,000 - dyma eich lwmp swm di-dreth. Rydych yn prynu blwydd-dal gyda’r £45,000 sy’n weddill sy’n talu £2,000 y flwyddyn i chi. Mae’r arian hwn yn drethadwy.
Ei gymryd fesul tipyn
Gallwch gymryd allan symiau o arian llai o’ch cronfa bensiwn heb dalu treth. Mae 25% o bob darn yn ddi-dreth.
Enghraifft Mae eich cronfa yn £60,000 ac rydych yn cymryd allan £1,000 bob mis - mae £250 o hyn yn ddi-dreth. Mae’r £750 sy’n weddill yn drethadwy.
Sut mae eich treth yn cael ei dalu
Mae’r arian rydych yn ei gymryd o’ch cronfa yn dod o’ch darparwr gyda’r dreth eisoes wedi’i dynnu ohonno.
Bydd eich darparwr hefyd yn tynnu allan unrhyw dreth sy’n ddyledus ar eich Pensiwn y Wladwriaeth.
Efallai y byddwch yn talu treth brys pan fyddwch yn cymryd arian o’ch cronfa. Gallwch hawlio hwn yn ôl gan Gyllid a Thollau EM.
Os byddwch yn parhau i weithio
Bydd eich cyflogwr yn tynnu unrhyw dreth sy’n ddyledus gennych o’ch enillion a’ch Pensiwn y Wladwriaeth. Gelwir hyn yn Talu Wrth Ennill (PAYE).
Os yw cyfanswm eich incwm (gan gynnwys arian o bensiynau a PAYE) yn £100,000 neu fwy ar gyfer y flwyddyn dreth, neu os ydych yn hunangyflogedig, bydd rhaid i chi lenwi ffurflen dreth Hunanasesiad.
Os oes gennych incwm arall
Chi sy’n gyfrifol am dalu treth ar incwm arall sydd gennych, er enghraifft o eiddo neu fuddsoddiadau, ac efallai y bydd rhaid i chi lenwi ffurflen dreth Hunanasesiad.
Byddwch fel arfer yn talu treth os yw eich cronfeydd pensiwn yn werth mwy na’r lwfans oes. Ar hyn o bryd mae hyn yn £1,073,100.