Addewid i gwsmeriaid

Mae ein haddewid i gwsmeriaid yn dweud wrthych beth rydym yn addo ei wneud pan fyddwch yn trefnu apwyntiad Pensiwn Wise.

Byddwn yn:

Trefnu eich apwyntiad

  • Anelu i ateb eich galwad i’n canolfan trefnu mewn 20 eiliad neu lai
  • Egluro’n glir sut i gysylltu â ni, gan gynnwys trefnu apwyntiad 45-munud am ddim
  • Cynnig dewis o apwyntiad dros y ffôn neu wyneb-yn-wyneb i chi
  • Dod o hyd i apwyntiad wyneb-yn-wyneb mewn man cyfleus i chi

Ar ôl i chi drefnu

  • Anfon cadarnhad o’ch apwyntiad i chi
  • Dweud wrthych beth fydd yn digwydd nesaf, ac erbyn pryd
  • Dweud wrthych beth i fynd i’r apwyntiad i gael y gorau allan ohono
  • Anfon nodiadau i’ch atgoffa o’ch apwyntiad

Yn ystod eich apwyntiad

  • Rhoi’r wybodaeth gywir i chi
  • Egluro pethau’n glir ac osgoi jargon
  • Peidio argymell unrhyw gynhyrchion neu ddweud wrthych beth i’w wneud gyda’ch arian
  • Dweud wrthych ble i fynd i gael cymorth na allwn ni ei roi i chi
  • Bod yn ddefnyddiol, di-duedd, cwrtais, eich trin yn deg a chyda pharch

Ar ôl eich apwyntiad

  • Anfon crynodeb ysgrifenedig o’r arweiniad a roddwyd i chi yn eich apwyntiad
  • Defnyddio eich adborth i wella sut rydym yn gwneud pethau

Gwybodaeth bersonol

  • Diogelu eich gwybodaeth bersonol

Cwynion

  • Dweud wrthych beth i’w wneud nesaf os nad ydych yn fodlon ar sut rydych wedi cael eich trin
  • Gwella ein gwasanaethau’n barhaus i wneud pethau’n well i chi

Hygyrchedd

  • Gwneud yn siŵr y gallwch gael apwyntiad wyneb-yn-wyneb os oes gennych anabledd - er enghraifft mynediad i gadair olwyn neu Iaith Arwyddion Prydeinig os ydych chi’n fyddar
  • Anfon eich crynodeb mewn braille neu brint bras os ydych chi’n ddall neu’n rhannol ddall

Yn gyfnewid rydym angen i chi:

  • Bod ar amser ar gyfer eich apwyntiad neu roi gwybod i ni os bydd angen ei newid
  • Trin ein staff gyda pharch
  • Rhannu gyda ni unrhyw wybodaeth berthnasol pan fyddwn yn gofyn amdani