Beth sy’n digwydd i’m pensiwn pan fyddaf yn symud dramor?
Os ydych yn byw dramor, neu’n cynllunio i ymddeol dramor ac mae gennych bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio yn y DU, gallwch unai:
- gadael eich cronfa yn y DU a chymryd eich arian o dramor
- symud eich cronfa bensiwn dramor
Gallwch hefyd gymysgu’r opsiynau hyn, er enghraifft gadael un pensiwn yn y DU a symud un arall dramor.
Cymryd eich pensiwn o dramor
Os byddwch yn gadael eich cronfa bensiwn yn y DU, mae gennych yr un opsiynau pensiwn y DU.
Nid yw darparwyr pensiwn y DU fel arfer yn talu’r arian o’ch pensiwn yn syth i gyfrifon banc tramor. Os ydynt yn gwneud hynny, efallai y byddant yn codi ffioedd. Holwch eich darparwr.
Fel arall, gallwch ofyn i’ch darparwr dalu eich pensiwn i gyfrif banc yn y DU. Yna gallech dynnu arian allan gyda’ch cerdyn debyd o dramor, neu drosglwyddo’r arian eich hun i mewn i gyfrif tramor.
Dylech bob amser wirio taliadau banc a chyfraddau cyfnewid.
Symud eich pensiwn dramor
Mae’n bosibl symud eich pensiwn dramor. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud hyn, gwnewch yn siwr eich bod yn trosglwyddo’r arian i mewn i gynllun pensiwn tramor cydnabyddedig cymhwysol neu godir treth. Mae’r cynlluniau hyn yn cwrdd â’r un safonau â’r rhai yn y DU.
Gallai trosglwyddo eich pensiwn newid y swm a gewch pan fyddwch yn ymddeol. Holwch eich darparwr.
Gallech gael llai o ddewis ynghylch beth y gallwch ei wneud gyda’ch cronfa bensiwn nag os ydych yn ei adael yn y DU. Efallai y bydd rhaid i chi hefyd dalu mwy o ffioedd.
Treth pan fyddwch yn cymryd eich pensiwn dramor
Efallai y bydd rhaid i chi dalu treth y DU ar eich pensiwn.
Efallai y bydd rhaid i chi hefyd dalu treth yn y wlad lle rydych yn breswylydd. Os oes gan y wlad honno gytundeb trethiant dwbl gyda’r DU, efallai na fydd rhaid i chi dalu treth ddwywaith – yn y DU a thramor.
Os ydych yn bwriadu ymddeol dramor rhaid i chi ddweud wrth Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi er mwyn i chi dalu’r dreth gywir ar eich pensiwn.
Os byddwch yn symud dramor cyn i chi ddechrau cymryd eich pensiwn, efallai y bydd, deddfau treth tramor yn eich atal rhag cymryd unrhyw beth yn ddi-dreth.
Eich Pensiwn y Wladwriaeth
Gallwch gael eich Pensiwn y Wladwriaeth dramor os ydych yn gymwys.
Cael rhagor o help
Cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau i gael gwybodaeth am ddim a diduedd ar sut i gymryd eich pensiwn dramor.
Gall y Ganolfan Pensiynau Ryngwladol eich helpu gyda’ch Pensiwn y Wladwriaeth dramor.
Gallwch ddod o hyd i ymgynghorydd ariannol i’ch helpu i ddewis yr opsiwn pensiwn cywir pan fyddwch yn symud dramor. Efallai y byddwch yn gorfod talu ffi am y cyngor hwn.
Os ydych yn byw mewn gwlad yr Ardal Economaidd Ewropeaidd ac angen cyngor gan ymgynghorydd ariannol y DU, dylech wirio bod ganddynt gymeradwyaeth gyfreithiol i roi cyngor ariannol - a elwir weithiau yn pasbortio – yn eich gwlad.