Sut i ddeall eich datganiad pensiwn

Fel arfer, byddwch yn cael un datganiad pensiwn y flwyddyn - efallai y bydd eich darparwr yn galw hyn eich datganiad blynyddol.

Mae eich datganiad yn dangos:

  • faint sydd yn eich cronfa
  • amcangyfrif o faint y gallech ei gael pan fyddwch yn dechrau cymryd arian
  • os oes gan eich pensiwn unrhyw nodweddion arbennig, er enghraifft cyfradd blwydd-dal gwarantedig
  • eich ‘oedran ymddeol a ddewiswyd’ (yr oedran roeddech wedi’i gytuno gyda’ch darparwr i ymddeol)
  • ‘gwerth trosglwyddo’ eich cronfa – y swm y byddech yn ei gael os byddech yn symud darparwr neu’n cyfnewid eich cronfa gyfan am arian

Eich math o bensiwn

Dylai eich datganiad ddweud wrthych os oes gennych bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio neu fuddion wedi’u diffinio – neu gallwch edrych pa fath o bensiwn sydd gennych.

Os yw eich datganiad yn dangos ‘cyfanswm y cynllun’ neu ‘gwerth y gronfa’, mae’n debyg bod gennych gynllun pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio.

Gallwch drefnu apwyntiad Pension Wise os oes gennych bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio.

Os yw’n dangos gwerth y pensiwn ar ymddeoliad sy’n gysylltiedig â’ch cyflog a hyd y gwasanaeth gyda chyflogwr, mae’n debygol fod gennych bensiwn buddion wedi’u diffinio (cyflog terfynol neu gyfartaledd gyrfa).

Gallwch gael help gyda phensiynau cyflog terfynol a chyfartaledd gyrfa (buddion wedi’u diffinio) gan y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau

Efallai bydd eich datganiad yn ddefnyddio’r geiriau, ‘cynllun’ neu ‘polisi’ – mae hyn yn ffordd eich darparwr o ddisgrifio eich pensiwn.

Pensiwn y Wladwriaeth

Rydych yn cael datganiad Pensiwn y Wladwriaeth gan y llywodraeth.

Darllenwch fwy am beth sydd yn eich datganiad Pensiwn y Wladwriaeth ar GOV.UK.

Nodweddion arbennig

Efallai y bydd gan eich pensiwn ‘nodwedd arbennig’. Gallai hyn olygu bargen well, fel cyfradd blwydd-dal gwarantedig. Gallai hefyd olygu cyfyngiad, fel ffi ymadael yn gynnar.

Nid yw nodweddion arbennig bob amser yn cael eu rhestru mewn datganiadau pensiwn. Cysylltwch â’ch darparwr a gofyn a oes gan eich pensiwn unrhyw nodweddion neu drefniadau arbennig.

Efallai y byddwch hefyd yn cael gwybodaeth am nodweddion arbennig yn y dogfennau a gawsoch pan wnaethoch ddechrau’r pensiwn, neu’r dogfennau a anfonwyd gan eich darparwr tua 4 i 6 mis cyn eich oedran pensiwn a ddewiswyd (a elwir eich pecyn ‘deffro’).

Cyfradd blwydd-dal gwarantedig

Chwiliwch am ‘cyfradd blwydd-dal gwarantedig’ yn eich datganiad - yn enwedig os dechreuoch eich pensiwn yn ystod yr 1980au neu’r 1990au. Mae hyn yn golygu y bydd eich pensiwn yn talu cyfradd sefydlog o incwm. Byddai’r swm wedi cael ei osod pan ddechreuoch eich pensiwn a gall gynnig gwerth gwell na blwydd-daliadau sydd ar gael mewn mannau eraill.

Nid yw hyn yr un peth â blwydd-dal ‘cyfnod gwarantedig’ - un sy’n stopio talu ar ddiwedd tymor penodol, er enghraifft 10 mlynedd.

Gostyngiadau neu addasiadau gwerth marchnad

Os yw eich datganiad yn dangos bod eich pensiwn yn cael ei fuddsoddi mewn cronfa ‘gydag elw’, gallai olygu bod ganddi ‘ostyngiad gwerth marchnad’ neu ‘addasiad’. Mae hyn yn golygu bod y swm yn eich cronfa yn cael ei ostwng o dan rai amgylchiadau.

Ffioedd gadael yn gynnar

Gall edrych ar werth trosglwyddo eich cronfa helpu i weithio allan os oes gan eich pensiwn ‘ffi gadael yn gynnar’.

Os yw’r gwerth trosglwyddo yr un fath â gwerth eich cronfa, mae’n annhebygol y byddwch yn gorfod talu ffi pan fyddwch yn trosglwyddo. Os yw’r gwerth trosglwyddo yn is na chyfanswm gwerth eich cronfa, efallai y codir ffi gadael yn gynnar.