A oes angen ymgynghorydd ariannol arnaf?
Bydd ymgynghorydd yn gofyn am eich sefyllfa ariannol, amgylchiadau personol, eich nodau a sut rydych yn teimlo am gymryd risgiau gyda’ch arian. Bydd hyn yn eu helpu i argymell cynhyrchion incwm ymddeol (er enghraifft tynnu allan hyblyg, gwahanol fathau o flwydd-dal) sy’n addas ar eich cyfer chi.
Cewch wybod mwy am yr hyn y gallai ymgynghorydd ei ofyn i chi o wefan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA).
Po fwyaf o wybodaeth rydych wedi’i baratoi pan fyddwch yn cwrdd ag ymgynghorydd, y mwyaf o fudd a gewch. Mae hyn yn cynnwys manylion am faint sydd yn eich cronfa ac incwm arall.
Pryd i weld ymgynghorydd ariannol
Dylech ystyried siarad ag ymgynghorydd ariannol os ydych eisiau:
- buddsoddi eich cronfa i gael incwm addasadwy – gall ymgynghorydd wneud hyn ar eich rhan
- cymysgu eich opsiynau pensiwn
- talu mwy o arian i mewn i’ch pensiwn
- cael cyngor ar sut i ddosbarthu arian ar eich marwolaeth trwy ewyllys - gallant gynghori ar y ffordd fwyaf effeithlon o ran treth i wneud hyn
Rhaid i chi gael cyngor ariannol rheoledig, yn ôl y gyfraith, os oes gennych chi:
- pensiwn cyflog terfynol neu bensiwn cyfartaledd gyrfa (a elwir fel pensiwn ‘buddion wedi’u diffinio’) sy’n werth mwy na £30,000 ac rydych am ei drosglwyddo i gynllun pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio
- pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio sy’n werth mwy na £30,000 gyda gwarant am yr hyn y byddwch yn cael eich talu pan fyddwch yn ymddeol (er enghraifft cyfradd blwydd-dal gwarantedig) ac rydych am ei roi i fyny i wneud rhywbeth arall â’ch cronfa
Dylech hefyd ystyried siarad ag ymgynghorydd ariannol os ydych am wneud un o’r rhain ac mae eich pensiwn werth £30,000 neu lai.
Dewis ymgynghorydd
Gwiriwch bod eich ymgynghorydd wedi’i awdurdodi gan yr FCA.
Chwiliwch cyfeiriadur ymgynghorydd ymddeol y Gwasanaeth Cynghori Ariannol i ddod o hyd i ymgynghorydd.
Ymgynghorwyr annibynnol neu gyfyngedig
Dylech bob amser ofyn i ymgynghorydd os ydynt yn annibynnol neu’n gyfyngedig.
Mae ymgynghorwyr cyfyngedig yn cael eu cyfyngu i fathau penodol o gynhyrchion (er enghraifft dim ond blwydd-daliadau) neu’r darparwyr y gallant ddewis ohonynt. Mae ymgynghorwyr annibynnol yn cwmpasu’r farchnad gyfan.
Talu am gyngor ariannol
Mae’r ffioedd am gael cyngor ariannol yn amrywio. Cyn i chi gael cyngor, gofynnwch i’r ymgynghorydd:
- beth yw’r ffioedd a’r costau
- pryd mae disgwyl i chi dalu
- os oes ffi am ymgynghoriad cychwynnol - mae llawer o ymgynghorwyr yn cynnig hwn am ddim
Efallai y gallwch gael mynediad at Lwfans Cyngor Pensiwn tuag at dalu am gyngor ariannol. Mae hyn yn caniatáu i chi gymryd £500 unwaith y flwyddyn a hyd at 3 gwaith yn gyfangwbl i dalu tuag at gost cyngor ariannol. Nid yw pob darparwr pensiwn yn cynnig y dull talu hwn, felly dylech wirio gyda’ch darparwr os yw ar gael.
Cewch wybod mwy am ddewis ymgynghorydd ariannol ar wefan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol.