Sut gall cymryd eich pensiwn effeithio ar eich hawl i Pensiwn y Wladwriaeth

Gall unrhyw arian bensiwn sydd gennych effeithio ar eich hawl i fudd-daliadau. Mae hyn yn berthnasol os ydych yn cymryd arian allan o’ch cronfa bensiwn neu ei adael i mewn.

Cyn oedran cymhwyso ar gyfer Credyd Pensiwn

Cyn i chi neu’ch partner gyrraedd yr oedran cymhwyso ar gyfer Credyd Pensiwn bydd unrhyw arian rydych yn ei gymryd allan o’ch cronfa yn cael ei gymryd i ystyriaeth pan fyddwch yn cael eich asesu am fudd-daliadau.

Gallai hyn, er enghraifft, fod yn incwm a gewch o flwydd-dal, lwmp swm di-dreth, neu incwm addasadwy.

Ar ôl oedran cymhwyso ar gyfer Credyd Pensiwn

Ar ôl i chi neu’ch partner gyrraedd oedran cymhwyso Credyd Pensiwn, bydd unrhyw arian y bydd y naill ohonoch yn ei gymryd allan eich potiau pensiwn ac unrhyw arian sy’n cael ei adael i mewn y pot sy’n eiddo i’r unigolyn dros oedran cymhwyso Credyd Pensiwn yn cael ei ystyried pan fydd eich incwm yn cael ei asesu.

Enghraifft Rydych yn 67 oed ac yn gwneud cais am Fudd-dal Tai. Mae gennych gronfa bensiwn o £40,000 ac rydych wedi cymryd £10,000 o arian yn ddi-dreth o’ch cronfa. Eich cronfa sy’n weddill yw £30,000. Oherwydd eich bod ar ôl oedran cymhwyso ar gyfer Credyd Pensiwn bydd y ddau swm yn cyfrif pan fyddwch yn cael eich asesu am fudd-daliadau.

Gadael eich cronfa heb ei gyffwrdd

Os ydych yn gadael arian mewn cronfa bensiwn bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) neu eich cyngor lleol yn edrych i weld faint fyddech chi’n ei gael os byddech wedi prynu blwydd-dal.

Byddant yn cymryd hyn i ystyriaeth pan fyddant yn asesu eich incwm.

Incwm addasadwy

Os ydych yn cymryd incwm addasadwy byddant yn edrych ar faint y byddech yn ei gael os byddech wedi prynu blwydd-dal, a faint o incwm addasadwy rydych yn ei gymryd. Bydd y swm uwch yn cael ei ddefnyddio pan fyddwch yn cael eich asesu am fudd-daliadau.

Eich cyfrifoldeb chi yw dweud wrth DWP, CThEM neu eich cyngor lleol os ydych chi neu’ch partner yn cymryd unrhyw arian o’ch cronfa bensiwn.

Os ydych yn gwario neu roi’r arian i ffwrdd yn fwriadol (gan gynnwys arian di-dreth) o’ch cronfa bensiwn i gael neu gynyddu budd-daliadau, efallai y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau neu’ch cyngor lleol yn asesu eich hawl eto ac yn eich trin fel bod yr arian hwnnw yn parhau i fod gennych.

Yn ogystal ag unrhyw incwm neu arian sy’n cael ei gymryd o’ch cronfa bensiwn, efallai bydd eich asedau eraill (er enghraifft cynilion a buddsoddiadau) yn cyfrif pan fyddwch yn cael eich asesu am fudd-daliadau.

Darllenwch fwy am hawl i bensiynau a budd-daliadau a Chredyd Pensiwn.

Cael help gyda budd-daliadau

Defnyddiwch gyfrifiannell budd-daliadau annibynnol i weld pa fudd-daliadau y gallech fod â hawl iddynt.

Gallwch fynd i’ch Pwynt Gwybodaeth am Wasanaeth lleol am help a chyngor am nifer o fudd-daliadau. Mae angen i chi wneud trefniadau am gyngor wyneb yn wyneb.

Gallwch hefyd gael help gan a’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol.