Pensiynau ac Ysgaru

Dylai eich pensiwn gael ei gynnwys yn eich setliad ariannol os ydych yn ysgaru neu’n diddymu eich partneriaeth sifil.

Hyd yn oed pan rydych yn cytuno ar setliad, dylid ei gadarnhau drwy orchymyn llys.

Os nad ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil, ni ellir rhannu eich pensiwn os ydych yn gwahanu.

Dylech bob amser gael cyngor cyfreithiol ynghylch eich pensiwn os ydych yn ysgaru neu’n diddymu eich partneriaeth sifil. Yn enwedig os ydych chi’n ailbriodi ac heb cytuno ar setliad ariannol yn flaenorol.

Sut mae’r llysoedd yn delio â phensiynau

Pan fydd priodas neu bartneriaeth sifil yn dod i ben, mae’r llysoedd yn delio â’r trefniadau pensiwn mewn un o 3 ffordd.

1. Rydych yn cael canran o gyfran cronfa bensiwn eich cyn bartner

Gelwir hyn yn rhannu pensiwn. Yna mae’r arian y byddwch yn ei gael o gronfa bensiwn eich cyn briod neu bartner sifil yn cael ei drin gan y gyfraith fel eich arian chi.

2. Mae gwerth pensiwn yn cael ei wrthbwyso yn erbyn asedau eraill

Gelwir hyn yn gwrthbwyso pensiwn. Er enghraifft: rydych chi’n cadw eich pensiwn a’ch cyn-briod neu bartner sifil yn cadw’r cartref.

3. Mae rhywfaint o’ch pensiwn yn cael ei dalu i’ch cyn bartner

O dan y trefniant hwn, gall arian o’ch lwmp swm di-dreth hefyd fynd i’ch priod neu bartner sifil blaenorol.

Os ydych chi’n byw yn yr Alban

Mae’r opsiynau ar gyfer sut mae’r llysoedd yn rhannu cronfeydd pensiwn yr un fath ag yng ngweddill y DU.

Mae gwahaniaethau yn y ffordd mae opsiynau pensiwn yn cael eu cymhwyso yn yr Alban. Darllenwch fwy am sut mae’r llysoedd yn delio â phensiynau yn yr Alban.

Dysgwch ragor am ysgaru a phensiynau neu siarad ag arbenigwr pensiynau o’r Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau ar 0800 011 3797.

Pensiwn y Wladwriaeth

Mae sut mae ysgariad yn effeithio ar eich Pensiwn y Wladwriaeth yn dibynnu ar ba Bensiwn y Wladwriaeth a gewch.

Pensiwn y Wladwriaeth sylfaenol

Ni all eich Pensiwn y Wladwriaeth sylfaenol gael ei rannu os yw eich priodas neu bartneriaeth sifil yn dod i ben.

Gall cyplau sydd wedi ysgaru ddefnyddio cyfraniadau Yswiriant Gwladol eu cyn briod neu bartner sifil i gynyddu eu Pensiwn y Wladwriaeth sylfaenol. Ni fydd hyn yn lleihau’r swm o Bensiwn y Wladwriaeth mae’r person arall yn ei gael.

Os oes gennych Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth, gallai’r llys orchymyn bod hwn yn cael ei rannu rhyngddoch os yw eich priodas neu bartneriaeth sifil yn dod i ben.

Byddwch yn colli’r hawliau hyn os byddwch yn ailbriodi neu’n ymrwymo i bartneriaeth sifil arall.

Pensiwn y Wladwriaeth Newydd

Ni all eich Pensiwn y Wladwriaeth newydd gael ei rhannu os yw eich priodas neu bartneriaeth sifil yn dod i ben.

Os oes gennych ‘taliad wedi’i ddiogelu’, gallai’r llys orchymyn bod hyn yn cael ei rannu rhyngddoch. Mae hwn yn daliad ychwanegol y gallech ei gael ar ben y Pensiwn y Wladwriaeth llawn.

Mwy o wybodaeth

Gelwir hyn yn atodiad pensiwn neu weithiau’n clustnodi pensiwn. Mae hwn yn debyg i daliad cynhaliaeth uniongyrchol o gronfa pensiwn un person i’w priod neu bartner sifil blaenorol.