Cymysgu eich opsiynau pensiwn
Trosolwg
Gallwch gymysgu y ffyrdd rydych yn cymryd eich cronfa bensiwn.
- Gallwch cymysgu’r opsiynau pensiwn, er enghraifft defnyddio rhywfaint o’ch cronfa i gael incwm addasadwy a rhywfaint i brynu blwydd-dal.
- Nid yw pob darparwr pensiwn yn cynnig yr holl opsiynau.
- Os oes gennych nifer o gronfeydd, gallwch ddefnyddio opsiynau gwahanol ar gyfer pob cronfa, er enghraifft gadael un gronfa heb ei gyffwrdd a cymryd arian allan o un arall.
Darganfyddwch os allwch drefnu apwyntiad Pension Wise am ddim.
Cyngor ariannol
Gall cymysgu eich opsiynau fod yn gymhleth. Os oes gennych ddiddordeb yn hyn efallai y byddwch am siarad ag ymgynghorydd ariannol yn gyntaf.
Trefnwch apwyntiad Pension Wise yn rhad ac am ddim i gael gwybod mwy am yr hyn y gallwch ei wneud gyda’ch cronfa.