Dyled

Dylech feddwl yn ofalus am gymryd arian o’ch cronfa bensiwn i dalu dyledion. Gallai arian y byddwch yn ei gymryd o’ch cronfa nawr eich gadael gyda llai i fyw arno yn y dyfodol.

Trefniadau i dalu eich dyledion

Os oes gennych drefniant i dalu eich dyledion, efallai y bydd eich credydwyr yn gallu cymryd arian o’ch incwm pensiwn neu lwmp swm.

Mae hyn yn cynnwys arian neu incwm o:

  • blwydd-dal
  • cronfa tynnu allan hyblyg
  • unrhyw arian a gymerwyd fesul tipyn
  • unrhyw arian o gymryd eich cronfa gyfan mewn un tro

Dylech ddarganfod statws unrhyw drefniant dyled sydd gennych cyn dewis opsiwn pensiwn.

Darllenwch fwy am drefniadau talu dyledion ar GOV.UK.

Methdaliad

Nid yw’r rhan fwyaf o gronfeydd pensiwn yn cael eu cynnwys fel asedau yn eich methdaliad. Mae hyn yn golygu na allant gael eu hawlio gan y person a benodwyd i reoli eich methdaliad (a elwir fel eich ‘ymddiriedolwr’) os na fyddwch yn cymryd arian allan o’ch cronfa.

Os ydych yn cymryd incwm neu gyfandaliadau o’ch cronfa, efallai y bydd eich ymddiriedolwr yn gofyn i chi wneud taliadau rheolaidd tuag at eich dyledion o’r arian hwnnw. Gallant hefyd hawlio’r lwmp swm cyfan rydych yn ei gymryd tra rydych yn fethdalwr.

Darllenwch fwy am fethdaliad ar GOV.UK.

Cael help gyda dyledion

Mae gan Cyngor ar Bopeth wybodaeth i helpu gyda phroblemau dyled ac i’ch helpu i reoli eich arian.

Gallwch ddod o hyd i sefydliadau sy’n cynnig cyngor am ddim ar ddyled ar wefan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol.