Ailgylchu pensiwn

Os ydych yn bwriadu cymryd allan eich lwmp swm di-dreth a thalu i mewn i’r un gronfa bensiwn neu i un arall, mae angen i chi fod yn ymwybodol o gyfreithiau ‘ailgylchu pensiwn’.

Gallai fod yn ailgylchu pensiwn os ydych yn bwriadu defnyddio’r lwmp swm di-dreth i dalu mewn i bensiwn i gael rhyddhad treth.

Os yw Cyllid a Thollau EM yn penderfynu eich bod wedi torri cyfreithiau ailgylchu pensiwn, efallai y bydd rhaid i chi dalu treth ar yr holl lwmp swm di-dreth gwreiddiol - hyd yn oed os ydych ond yn ailgylchu rhywfaint o’r arian.

Dylech gael cyngor ariannol os ydych am ail-fuddsoddi eich arian di-dreth i mewn i bensiwn.