Salwch a phensiynau
Os ydych yn sâl
Efallai y byddwch yn gallu cymryd eich cronfa pensiwn yn gynnar os na allwch weithio oherwydd eich bod yn rhy sâl.
Gallai hyn fod cyn eich bod yn 55 oed neu eich ‘oedran ymddeol a ddewiswyd’ - yr oedran roeddech wedi’i gytuno gyda’ch darparwr i ymddeol.
Siaradwch â’ch darparwr am reolau eich pensiwn - bydd yn dibynnu ar eu diffiniad o ‘salwch’.
Gall blwydd-dal ‘uwch’ neu ‘nam’ dalu mwy na blwydd-dal safonol os ydych yn ysmygu neu os oes gennych gyflwr meddygol, er enghraifft diabetes neu bwysedd gwaed uchel.
Os ydych chi’n ddifrifol wael
Mae rheolau treth arbennig yn berthnasol os oes gennych salwch difrifol sy’n golygu bod disgwyl i chi fyw am lai na blwyddyn.
Efallai y byddwch yn gallu cymryd eich cronfa bensiwn gyfan yn ddi-dreth os yw pob un o’r canlynol yn berthnasol i chi:
- Mae disgwyl i chi fyw am lai na blwyddyn oherwydd salwch difrifol.
- Rydych o dan 75 oed (os ydych chi dros 75 oed byddwch yn talu Treth Incwm ar y lwmp swm).
- Nid oes gennych fwy na’r lwfans oes o £1,073,100 mewn arian pensiwn.
Gwiriwch delerau eich pensiwn gyda’ch darparwr. Bydd rhai pensiynau yn cadw o leiaf 50% o’ch cronfa ar gyfer eich priod neu bartner.
Bydd angen i chi feddwl am p’un a ydych eisiau swm o arian nawr neu fath o incwm. Bydd angen i chi feddwl hefyd am sut rydych eisiau gadael arian ar ôl.