Beth fydd yn digwydd i’ch pensiwn pan fyddwch yn marw?
Bydd y ffordd rydych yn cymryd eich pensiwn yn effeithio ar sut y gallwch chi ei adael i’ch buddiolwr (y sawl sy’n ei etifeddu) pan fyddwch yn marw.
Mae’r rhan fwyaf o opsiynau pensiwn yn caniatáu i unrhyw un i etifeddu eich pensiwn - nid oes rhaid iddynt fod eich priod neu’ch partner sifil.
Sicrhewch fod gan eich darparwr pensiwn fanylion cyfredol eich buddiolwr. Os oes gennych fwy nag un pensiwn, dywedwch wrth eich holl ddarparwyr.
Gadael arian ar ôl
Os byddwch yn cymryd eich lwmp swm di-dreth, ond nid ydych yn ei ddefnyddio cyn i chi farw (er enghraifft mae wedi’i adael yn eich cyfrif banc), mae’n dod yn rhan o’ch ystâd. Mae yna’n ffurfio rhan o bopeth rydych yn berchen arno a’ch holl arian pan fyddwch yn marw. Gallai fod angen i’ch buddiolwr dalu Treth Etifeddu arno.
Mae’r un peth yn wir os byddwch yn cymryd eich cronfa gyfan mewn un tro neu fesul tipyn ond ddim yn ei ddefnyddio i gyd cyn i chi farw.
Gall eich buddiolwr gymryd arian sy’n dal yn eich cronfa fel un lwmp swm neu ei ddefnyddio i brynu blwydd-dal neu incwm addasadwy.
Gadael pensiwn ar ôl
Mae rhai mathau o bensiwn y gallwch eu gadael i rywun ar ôl i chi farw. Mae’r taliadau mae eich buddiolwr yn eu cael yn dibynnu ar ffactorau fel eu hoedran a’u hiechyd.
Blwydd-dal ar y cyd
Mae taliadau’n parhau i’ch buddiolwr ar ôl i chi farw. Pan fyddant yn marw, ni fyddant yn gallu gadael y taliadau hyn i unrhyw un arall.
Cyfnod gwarantedig
Mae taliadau o flwydd-dal gyda chyfnod gwarantedig yn parhau hyd yn oed os byddwch yn marw cyn bod y cyfnod hwnnw’n dod i ben. Mae’r cyfnod gwarantedig yn dechrau pan fyddwch yn cymryd yr arian o’ch cronfa.
Enghraifft: Rydych yn cymryd blwydd-dal gwarantedig 10 mlynedd ac yn marw ar ôl 8 mlynedd. Mae eich priod yn cael taliadau am y 2 flynedd arall. Os byddwch yn marw ar ôl y cyfnod gwarantedig o 10 mlynedd, ni fydd eich priod yn cael unrhyw daliadau.
Blwydd-dal cyfalaf a ddiogelir
Mae hyn hefyd yn cael ei adnabod fel blwydd-dal ‘gwerth a ddiogelir’. Mae eich buddiolwr yn etifeddu lwmp swm - dyma eich cronfa llai unrhyw daliadau blwydd-dal rydych wedi’u cymryd cyn i chi farw.
Incwm addasadwy
Gallwch ddewis pwy rydych eisiau i dderbyn unrhyw arian sydd ar ôl yn eich cronfa ar ôl i chi farw.
Y dreth mae eich buddiolwr yn ei dalu
Etifeddiaeth | Eich oedran pan fyddwch yn marw | Treth maent yn ei dalu |
---|---|---|
Arian rydych wedi’i gymryd allan o’ch cronfa sydd heb ei ddefnyddio | Unrhyw oed | Treth Etifeddu yn seiliedig ar faint eich ystad |
Arian sy’n dal yn eich cronfa | O dan 75 oed | Dim, os ydynt yn ei gymryd o fewn 2 flynedd |
Arian sy’n dal yn eich cronfa | 75 oed neu hŷn | Treth Incwm |
Incwm addasadwy | O dan 75 oed | Dim |
Incwm addasadwy | 75 oed neu hŷn | Treth Incwm |
Blwydd-dal ar y cyd, cyfnod gwarantedig neu cyfalaf a ddiogelir | O dan 75 oed | Dim |
Blwydd-dal ar y cyd, cyfnod gwarantedig neu cyfalaf a ddiogelir | 75 oed neu hŷn | Treth Incwm |
Efallai y bydd eich buddiolwr yn talu treth ychwanegol os yw’r swm rydych yn ei gymryd o’ch cronfa cyn i chi farw a’r swm y byddwch yn ei adael ar ôl yn fwy na £1,073,100.