Pension Wise i gyflogwyr
Gall Pension Wise weithio yn uniongyrchol gyda chyflogwyr sydd:
- cynllun pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio ar gyfer eu gweithwyr
- gweithwyr sy’n 50 oed neu drosodd
Beth fyddwch yn ei gael
Fel cyflogwr byddwch yn cael gwasanaeth am ddim i’ch gweithwyr sy’n cynnwys:
- apwyntiadau un i un gydag arbenigwyr pensiynau achrededig
- taflenni a phosteri hyrwyddo i’w harddangos mewn mannau staff ac mewn cyfarfodydd cyn ymddeol
- yr opsiwn o gael stondinau gwybodaeth mewn digwyddiadau cwmni
- cynnwys Pension Wise ar gyfer safleoedd mewnrwyd
Beth fydd eich gweithwyr yn ei gael
Gyda phensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio mae eich gweithwyr yn penderfynu sut i gymryd eu harian pensiwn. Bydd Pension Wise yn eu helpu i ddeall y ffyrdd gwahanol y gallant wneud hyn.
Byddant yn cael apwyntiad arweiniad am ddim gydag un o’n harbenigwyr pensiynau. Mae apwyntiad yn para am tua 45 i 60 munud a byddwn yn:
- egluro’r opsiynau ar gyfer cymryd eu harian pensiwn
- egluro sut mae bob opsiwn yn cael ei drethu
- rhoi’r camau nesaf iddynt eu cymryd
Gall yr apwyntiad fod dros y ffôn neu wyneb yn wyneb rhywle sy’n lleol iddynt ac o bosib yn y gweithle ar gyfer staff cymwys.
Mae ein harweiniad yn ddiduedd ac ni fyddwn yn argymell unrhyw gynnyrch neu gwmnÔau ac ni fyddwn yn dweud wrthynt sut i fuddsoddi eu harian.
Darganfyddwch fwy am weithio’n uniongyrchol gyda Pension Wise drwy ein e-bostio yn contact@pensionwise.gov.uk