Costau gofal

Gallai’r arian rydych yn ei gymryd allan neu adael yn eich cronfa bensiwn effeithio ar faint y gallech fod angen ei dalu tuag at gostau gofal yn nes ymlaen mewn bywyd.

Gall gofal gynnwys cymorth yn y cartref gyda phethau fel ymolchi, gwisgo, mynd allan, aros mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu neu symud i gartref gofal. Gelwir hyn yn gofal cymdeithasol a chynghorau lleol sy’n gyfrifol amdano.

Sut mae gofal yn cael ei dalu amdano

Nid yw gofal cymdeithasol yn rhad ac am ddim. Efallai bydd rhaid i chi dalu rhywfaint neu’r cyfan o gost eich gofal.

Bydd eich cyngor lleol yn gweithio allan faint y gallwch fforddio ei gyfrannu tuag at eich costau gofal. Byddant yn edrych ar:

  • unrhyw arian i mewn neu sydd wedi’i gymryd o’ch cronfa bensiwn - naill ai fel arian neu incwm
  • unrhyw incwm arall sydd gennych
  • eich asedau (er enghraifft cynilion a buddsoddiadau)

Sut y caiff eich cronfa bensiwn ei asesu

Gadael eich cronfa heb ei gyffwrdd

Os byddwch yn gadael arian mewn cronfa bensiwn, ni fydd eich cyngor lleol yn cyfrif hwn pan fyddant yn cyfrifo faint y gallwch fforddio ei dalu am ofal. Unwaith y byddwch yn cyrraedd oedran cymhwyso ar gyfer Credyd Pensiwn bydd eich cyngor lleol yn cymryd yn ganiataol eich bod yn derbyn incwm o’ch pensiwn.

Os nad ydych yn cymryd incwm, byddant yn edrych i weld faint y byddech yn ei dderbyn os byddech yn prynu blwydd-dal a defnyddio’r swm hwn pan fyddant yn cyfrifo eich incwm.

Incwm addasadwy

Os cymerwch incwm y gellir ei addasu, byddant yn edrych ar faint y byddwch yn ei gael pe byddech wedi prynu blwydd-dal, ac yn dibynnu ar faint y byddwch yn ei dynnu o’ch cronfa, gallant ei ddynodi fel cyfalaf neu incwm wrth asesu eich budd-daliadau.

Cymryd arian allan o’ch pensiwn

Os ydych yn cymryd allan arian fesul tipyn neu eich cronfa gyfan ar un tro ac yn ei roi i mewn i gynilion neu ei fuddsoddi, bydd eich cyngor lleol yn ei drin fel ased a’i gynnwys pan fyddant yn gweithio allan beth y gallwch fforddio ei dalu.

Os ydych yn gwario neu roi arian i ffwrdd yn fwriadol (gan gynnwys arian di-dreth) o’ch cronfa bensiwn i gael neu gynyddu cymorth gyda chostau gofal, efallai y bydd eich cyngor lleol yn asesu eich sefyllfa ariannol eto ac yn eich trin fel bod yr arian hwnnw yn parhau i fod gennych.