Pensiwn y Wladwriaeth
Gelwir y pensiwn a gewch gan y llywodraeth yn Bensiwn y Wladwriaeth. Byddwch yn ei gael pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Dim ond arweiniad ar bensiynau cyfraniadau wedi’u diffinio mae Pensiwn Wise yn ei roi – Y Gwasanaeth Pensiwn sy’n helpu gyda hawl, ceisiadau a thaliadau Pensiwn y Wladwriaeth.
Pensiwn y Wladwriaeth Newydd
Os gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl 6 Ebrill 2016 byddwch yn cael Pensiwn y Wladwriaeth newydd. Y taliad Pensiwn y Wladwriaeth newydd llawn yw £179.60 yr wythnos.
Pensiwn y Wladwriaeth sylfaenol
Os gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016, byddwch yn cael Pensiwn y Wladwriaeth sylfaenol. Y mwyaf y gallwch ei gael o Bensiwn y Wladwriaeth sylfaenol ar hyn o bryd yw £137.60 yr wythnos.
Nid ydych fel arfer yn cael Pensiwn y Wladwriaeth yn awtomatig - rhaid i chi wneud cais amdano.
Cael datganiad Pensiwn y Wladwriaeth
Gwiriwch eich Pensiwn y Wladwriaeth ar-lein i gael rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth i gael gwybod faint allech chi ei gael, pryd allech ei gael ac os allech ei wella.
Gohirio Pensiwn y Wladwriaeth
Gallwch gynyddu eich incwm ar ôl ymddeol os nad ydych yn hawlio eich Pensiwn y Wladwriaeth pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Gelwir hyn yn gohirio Pensiwn y Wladwriaeth.
Efallai y byddwch hefyd yn gallu ychwanegu at eich Pensiwn y Wladwriaeth.