Sut i gwyno am bensiwn
Cysylltwch â’ch darparwr pensiwn yn gyntaf os ydych angen cwyno. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gallu cael pethau wedi’u datrys yn y ffordd hyn. Gan fod pensiwn pawb yn wahanol, bydd eich darparwr pensiwn fel arfer yn y sefyllfa orau i roi’r ateb cywir i chi cyn gynted ag y bo modd.
Gwneud cwyn
Dylech yn gyntaf ofyn i’ch darparwr pensiwn am fanylion o’u proses gwyno. Bydd hyn yn wahanol yn dibynnu ar eich darparwr a’r math o bensiwn. Dilynnwch broses eich darparwr cyn cymryd camau pellach.
Mae’n well i wneud eich cwyn yn ysgrifenedig ac i gael ymateb ysgrifenedig. Mae hyn yn helpu os byddwch angen mynd â’ch cwyn ymhellach.
Os ydych angen mynd â phethau ymhellach
Os ydych eisoes wedi dilyn proses gwyno eich darparwr pensiwn, mae yna ffyrdd gwahanol o fynd â phethau ymhellach.
Mae gennych yr hawl i gyfeirio’ch cwyn at yr Ombwdsmon Pensiynau am ddim.
Mae’r Ombwdsmon Pensiynau yn delio â chwynion ac anghydfodau sy’n ymwneud â gweinyddu a/neu reoli cynlluniau pensiwn galwedigaethol a phersonol.
Mae angen cysylltu â’r Ombwdsmon Pensiynau ynglŷn â chwyn o fewn tair blynedd ar ôl i’r digwyddiad(au) rydych yn cwyno amdanynt ddigwydd - neu, os yw’n ddiweddarach, o fewn tair blynedd ar ôl i chi wybod amdano gyntaf (neu y dylech fod wedi gwybod amdano). Mae yna ddisgresiwn i’r terfynau amser hynny gael eu hymestyn.
Gellir cysylltu â’r Ombwdsmon Pensiynau yn:
10 South Colonnade, Canary Wharf
London, E14 4PU
Ffôn: 0800 917 4487
E-bost: enquiries@pensions-ombudsman.org.uk
Gwefan: www.pensions-ombudsman.org.uk
Gallwch hefyd gyflwyno ffurflen gwyno ar-lein
Os oes gennych geisiadau cyffredinol am wybodaeth neu arweiniad ynghylch eich trefniadau pensiwn, cysylltwch â:
The Money and Pensions Service
120 Holborn
London EC1N 2TD