Gwneud eich arian barhau

Mae gwybod pa mor hir mae angen i’ch arian barhau yn dibynnu ar pryd rydych am ddechrau ei gymryd a beth yw eich cynlluniau at y dyfodol, er enghraifft efallai y byddwch am barhau i weithio ar ôl i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth neu ddyddiad ymddeol ar eich pensiwn.

Efallai y byddwch yn penderfynu gadael eich cronfa heb ei gyffwrdd a pharhau i dalu i mewn iddo - gallai hyn roi mwy o arian i chi fyw arno dros gyfnod byrrach o amser.

Bydd angen i chi weithio allan beth fydd gennych ar ôl ymddeol cyn edrych ar ba mor hir mae angen i’ch arian barhau.

Pa mor hir mae angen i’ch arian barhau

Bydd angen i chi feddwl am sut i wneud yr arian sydd gennych barhau am weddill eich oes.

Gallwch ddefnyddio cyfrifiannell y Swyddfa Ystadegau Gwladol i amcangyfrif pa mor hir rydych yn disgwyl byw. Gall hyn eich helpu i gynllunio pa mor hir y bydd angen i’ch pensiwn barhau - ond efallai y bydd dewisiadau ffordd o fyw a ffactorau eraill yn effeithio ar ba mor hir rydych yn byw.

Gallai cymryd allan gormod o’ch arian pensiwn wrth ymddeol yn gynnar olygu nad oes digon ar gyfer hwyrach ymlaen.

Pryd i ddechrau cymryd eich cronfa bensiwn

Chi sy’n penderfynu pryd i ddechrau cymryd arian allan o’ch cronfa - gallwch wneud hyn o 55 oed. Mewn rhai achosion prin gallwch gymryd eich arian allan yn gynt.

Mae’r rhan fwyaf o bensiynau yn gosod yr oedran y mae disgwyl i chi gymryd yr arian allan o’ch cronfa bensiwn, er enghraifft pan fyddwch yn troi 65 oed. Gelwir hyn eich ‘dyddiad ymddeol a ddewiswyd’ a gall fod yn wahanol i’ch oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Nid oes rhaid i chi gymryd eich arian allan pan fyddwch yn cyrraedd y dyddiad hwn. Gallwch adael eich cronfa bensiwn heb ei gyffwrdd nes eich bod yn barod i gymryd allan ohonno.

Yr hiraf rydych yn gadael yr arian wedi’i fuddsoddi a pharhau i dalu i mewn iddo, yr uchaf y gallai eich incwm fod pan fyddwch yn dewis ei gymryd allan. Hefyd ni fyddwch yn talu Treth Incwm ar yr arian cyhyd ag y bydd yn aros yn eich cronfa.

Efallai y byddwch am barhau i weithio am gyfnod, o bosibl yn rhan amser. Mae llawer o gyflogwyr yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg i bobl sy’n agos i neu sydd dros oedran ymddeol.

Pryd i gymryd eich Pensiwn y Wladwriaeth

Bydd angen i chi hefyd benderfynu pryd i gymryd eich Pensiwn y Wladwriaeth ar ôl i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Ni allwch gymryd Pensiwn y Wladwriaeth yn gynnar ond gallwch oedi pryd y byddwch yn dechrau ei gael - gelwir hyn yn gohirio’r Pensiwn y Wladwriaeth.

Darganfod dyddiad eich ymddeoliad

Gallai eich dyddiad ymddeol a ddewiswyd ddylanwadu ar pryd fyddwch yn penderfynu i gymryd yr arian allan o’ch cronfa bensiwn.

Gallwch wirio gwaith papur eich pensiwn, er enghraifft eich datganiadau pensiwn blynyddol i gael gwybod pa oedran a dyddiad rydych wedi’i ddweud rydych eisiau ymddeol. Gofynnwch i’ch darparwr os nad ydych yn gallu ddod o hyd iddo.

Os ydych eisiau newid eich dyddiad ymddeol a ddewiswyd gofynnwch i’ch darparwr os oes rhaid i chi dalu ffi neu os yw’n newid telerau eich pensiwn.