Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim
Mae Pension Wise yn gallu darparu eich apwyntiad drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae apwyntiad yn sgwrs gydag arbenigwr pensiynau. Byddwch yn siarad am yr opsiynau sydd gennych ar gyfer cymryd eich arian pensiwn.
Bydd eich apwyntiad yn parhau am 45 i 60 munud a byddwn yn:
- egluro eich opsiynau pensiwn
- egluro sut mae pob opsiwn yn cael ei drethu
- rhoi’r camau nesaf i chi eu cymryd
Gallwch siarad â ni dros y ffôn.
Cyn i chi drefnu
Dylech fod yn 50 oed neu drosodd a bod gyda phensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio (nid pensiwn cyflog terfynol neu gyfartaledd gyrfa).
Ddim yn siwr pa fath o bensiwn sydd gennych chi?
Sut i drefnu apwyntiad
Ffoniwch 0800 138 3944
Os ydych y tu allan i’r DU, ffoniwch +44 20 3733 3495.
Darganfyddwch am gostau galwadau
Mae ein harweiniad yn ddi-duedd – ni fyddwn yn argymell unrhyw gynnyrch neu gwmnïau ac ni fyddwn yn dweud wrthych sut i fuddsoddi eich arian.