Y 6 opsiwn pensiwn

Isod mae rhestr o’r opsiynnau sydd gennych ar gyfer cymryd eich arian pensiwn.

Darllenwch y crynodebau a dewiswch y rhai mae gennych ddiddordeb ynddynt am wybodaeth fanylach.

Os oes gennych fwy nag un gronfa gallwch ddefnyddio opsiynau gwahanol ar gyfer pob un.

Pa opsiynau mae gennych ddiddordeb ynddynt?

Nid oes yn rhaid i chi gymryd eich arian pensiwn ar gyrraedd eich ‘oedran ymddeol a ddewiswyd’ - yr oedran rydych wedi’i gytuno i ymddeol gyda’ch darparwr. Gallwch adael eich pensiwn wedi’i fuddsoddi a’i gymryd pan rydych yn barod.

Gallwch ddefnyddio eich arian pensiwn i brynu polisi yswiriant sy’n rhoi incwm gwarantedig i chi am oes neu ar gyfer nifer penodol o flynyddoedd. Gallwch gymryd hyd at 25% o’ch cronfa yn ddi-dreth cyn prynu blwydd-dal.

Mae’r opsiwn hwn yn gadael i chi benderfynu faint o arian pensiwn i’w gymryd allan a pha mor hir rydych am iddo barhau. Gallwch gymryd rhywfaint o’ch arian fel arian parod - mae hyd at 25% yn ddi-dreth. Mae’r gweddill yn cael ei fuddsoddi i roi incwm trethadwy i chi.

Mae’r opsiwn hwn yn gadael i chi benderfynu faint o arian pensiwn i’w gymryd a phryd i’w gymryd. Mae’ch cronfa yn parhau i fod wedi’i fuddsoddi ac rydych yn cymryd cyfandaliadau dros gyfnod o amser nes mae’n rhedeg allan - mae 25% o bob swm rydych yn ei gymryd allan yn ddi-dreth.

Gallwch gymryd eich cronfa bensiwn gyfan ar un tro fel arian parod - mae 25% yn ddi-dreth ac mae’r 75% arall yn cael ei drethu gydag unrhyw incwm arall sydd gennych, er enghraifft o waith, cynilion neu fuddsoddiadau.

Gallwch gymysgu eich opsiynau, er enghraifft defnyddio rhywfaint o’ch cronfa i gael incwm addasadwy a rhywfaint i brynu blwydd-dal. Os oes gennych fwy nag un gronfa gallwch ddefnyddio opsiynau gwahanol ar gyfer pob un, er enghraifft oedi cymryd un gronfa a chymryd nifer o gyfandaliadau o un arall.